2011 Rhif 1849 (Cy. 199)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658) er mwyn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/59/EU sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L225, 27.8.2010, t.10).

2. Yr hyn a gynhwysir yn y diwygiadau i Reoliadau 1993 yw—

(a)     yn Atodlen 2, rhestru dimethyl ether fel toddydd echdynnu y caniateir ei ddefnyddio wrth baratoi  cynhyrchion protein anifeiliaid a ddiseimiwyd (rheoliad 2(2)); a

(b)     yn Atodlen 3 (sy’n ymwneud â defnyddio toddyddion echdynnu wrth baratoi cyflasynnau naturiol), cynnwys  methanol a propanol-2-ol, gan ragnodi terfynau gweddilliol cysylltiedig (rheoliad 2(3)).

3.Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2011 Rhif 1849(Cy.199)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed                           25 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       25 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym                             15 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (c), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) ac a freinir bellach ynddynt hwy([2]).

Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([3]), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Awst 2011.

Diwygio Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993([4]) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 2 (bwydydd y ceir defnyddio ynddynt doddyddion echdynnu penodol, at ddibenion penodol yn unig), mewnosoder y cofnodion canlynol —

 

Column 1

Column 2

Column 3

Column 4

10  Defatted protein products

Dimethyl ether

Preparation of defatted animal protein products

0.009 mg/kg in the defatted protein products

(3) Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 3 (gweddillion uchaf o doddyddion echdynnu a ganiateir mewn bwydydd o ganlyniad i ddefnyddio, yn y bwydydd hynny, fwyd sy’n cynnwys cyflasynnau a baratowyd o ddeunyddiau cyflasu naturiol gan ddefnyddio’r toddyddion echdynnu hynny), mewnosoder y cofnodion canlynol—

 

Column 1

Column 2

Methanol

1.5 mg/kg

Propan-2-ol

1 mg/kg

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

25 Gorffennaf 2011        

 

 



([1])           1990 p.16.  Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 16, 17 a 48 gan adran 40(1) o Deddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (‘Deddf 1999’) a paragraffau 7 ac 8 iddi.  Diwygiwyd adran 17 hefyd gan baragraff 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.  Diwygiwyd adran 48 hefyd gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Deddf 1999 ac OS 2004/2990.

([2])           Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd hwy wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth  Cymru 2006 (2006 p.32).

([3])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sydd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). 

([4])           O.S. 1993/1658.  Diwygiwyd y Rheoliadau hyn gan O.S. 1995/1440, O.S. 1998/2257 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247).